bott.gif (1958 bytes)bot3.gif (2115 bytes)bot2.gif (1957 bytes)bota.gif (2078 bytes)botb.gif (1927 bytes)botk.gif (2156 bytes)botd.gif (1928 bytes)botc.gif (2157 bytes)

  Cerddi


Click here for an English version

Swn plant yn gwirioni,wpe7.jpg (2224 bytes)

Yn siarad fel melin glep,

Ac aderyn yn hedfan yn ysgafn drwy'r cwmwl gwyn,

"Rydym ni`n mynd," gwaeddodd Lynne.

Gweld anghenfil yn rhydu yn y glaw,wpe8.jpg (3091 bytes)

A chi yn chwarae yn y baw,

Llyffant yn wyrdd fel siwmper ysgol,

Edrychwch ar y mynyddoedd mawr -

Mae nhw`n fawr fel cawr!

Roedd Sean yn teimlo'n sâl fel ci,

"Dydw i ddim," dywedais i.

Gwelais adar yn canu fel côr,

Ac aeron coch yn sgleinio fel boch,

Blodau yn tyfu fel haul euraidd drost y bryn,

A'r hydref yn disgyn oddi ar y coed.

Glaw yn llifo drost y mynyddoedd,

A dyna ni!

wedi cyrraedd Ysgol Pentraeth!

Gan Lynne, Kim a Kerry, Blwyddyn 4.

 

Ein Taith

Swn plant wedi gwirioni’n lân,

Yn teithio mewn bws mini disglair -

sy'n las fel y môr,

Gweld mynyddoedd wedi

Eu gorchuddio gyda phlanced

o eira gwyn,

Gweld caeau yn fywiog hefo

Wyn bach!

Ar coed gosteiddig

Yn sefyll fel milwyr.

Cyrraedd Pont y Borth,

Ar ty bach hyfryd

Wrth y dwr ffyrnig,

Swn chwiban yn dod

Kid3.wmf (1800 bytes)
O bell,

Dyna’r tren o dyna well!

Mynd trwy'r twnal du

Fel noson dywyll o

aeaf,

Gweld y ddau lew tew!

dau ochor yma

A dau ochor drew,

Gweld awyrenau swnllyd

Yn hedfan uwch fy mhen,

Cyrraedd dociau Caergybi

I weld y llongau crand -

Yn hwylio tua’r Iwerddon

I wylio’r gem fawr.

Pawb yn eistedd ar y bws

wedi blino’n lân,

A dod adref ar y A5.

Blwyddyn 4

HH00526_.WMF (13538 bytes)

                                                   

 


Danfonwch e-bost atom:  

pennaeth@pentraeth.anglesey.sch.uk

  Ysgol Gymuned Pentraeth, Pentraeth,
Ynys Môn LL75 8UP

Creuwyd y safle gan:

blant blwyddyn 5 a 6 a Nia Llewelyn