india.jpg (17776 bytes) 
deml.gif (64929 bytes)deml2.gif (53007 bytes)


gweith.jpg (87909 bytes)

Edrychwch ar y geiriau canlynol,-

llwyddo, pwy,pwyth,llwyth,swyn.

Pa batrwm sy’n gyffredin yn y geiriau yma?

Ewch drwy’r testun i chwilio am ragor o eiriau sydd â’r patrwm yma i ateb y cwestiynau canlynol,-

  • Nid marw ond _____________.
  • Mae _____________ bach yn poeni pawb o hyd.
  • lliwiau banner Cymru yw coch, ______________ a gwyn.
  • Mae ______________ fawr i’w gael yn Ffair y Borth.
  • Nid _______________ ond llai.
  • Tymor y _______________ sy’n dilyn y Gaeaf.
  • Mae rhai pobl , sydd wedi eu camarwain, yn meddwl fod athrawon yn cael gormod o ______________.
  • ____________ y gwêl y fran ei chyw.

Mewn parau gwnewch restr o eiriau eraill sydd â’r patrwm yma.

Dyma rhai o’r geiriau sydd yn y testun,-

cynrychioli

symbol

addoli

dibynnu

ymweld

eiddo

Rhowch y geiriau yn nhrefn yr wyddor

Defnyddiwch y geiriadur a thesawrws i ddarganfod ystyr y geiriau yma

Ysgrifennwch 6 brawddeg sy’n cynnwys y geiriau. (Cofiwch ysgrifennu brawddegau sy’n dangos eich bod yn deallt ystyr y geiriau.)

Defnyddiwch eiriadur i ddod o hyd i,-

Unigol

(Un)

Lluosog

(Mwy nag un)

banner  
Hindw  
  gwyntoedd
eliffant  
  canhwyllau
cariad  
gwlad  
trên  

Cwestiynau ar y testun

India

1.
Sawl gwaith yn fwy na Phrydain yw India?

Teithio

  1. Beth sy’n danfon y pôst yn yr anialwch?
  2. Gwnewch restr o’r gwahanol ddulliau o deithio yn India.
  3. Yn eich tyb chwi, pam mae pobl yn dewis teithio mewn trenau yn hytrach na mewn awyrennau.

Addysg

  1. Pam fod plant yn gadael yr ysgol cyn iddynt fod yn un a’r bymtheg?
  2. Sut mae ysgolion India yn cymharu i ysgolion ein gwlad ni?

Banner

  1. Pa liwiau sydd i’w darganfod ar fanner India?
  2. Beth mae’r streipen werdd yn ei gynrychioli ar fanner India?

Bwyd

  1. Pam nad yw pobl India yn defnyddio eu llaw chwith i fwyta?
  2. Sut mae bwyd traddodiadol India’n cymharu â’n bwyd traddodiadol ni?

Bywyd Teuluol

Gwaith trafod- A fuasech chwi’n hoffi i’ch rhieni drefnu eich priodas?

Crefydd

  1. Beth yw prif wyliau’r Hindwiaid?
  2. Mae 11% o boblogaeth India’n Fwslemiaid. Pa ganran sydd ddim yn Fwslemiaid?

Tasgau ychwanegol

Dewisiwch wlad sy’n gyferbyniol i’n gwlad ni ac ewch ati i ddarganfod gwybodaeth am y wlad honno gan ddefnyddio’r un testunau sef,-

Addysg

Banner India

Bwyd

Teithio

Bywyd teuluol

Crefydd

Dyma baragraff am Hinsawdd India. Atalnodwch y darn yma.

Hinsawdd

tri tymor sydd yn y rhan fwyaf o india gwlyb poeth ac oer maer tymhoraun cael eu creu gan wyntoedd y monswns sydd yn chwythu o gefnfor yr india a dod a glaw sydd yn angenrheidiol i’r ffermwyr maer tymor poeth yn dechrau ym mis chwefror ar tymor gwlyb yn dechrau pan ddaw y monswns ym mis mehefin daw y tywydd oer yn yr hydref pa amser yn eich barn chwi ywr amser gorau i ymweld ag india

Gweithgaredd Technoleg Gwybodaeth

Defnyddio’r we!

Ewch i http://edcintl.cr.usgs.gov/adds/c1/r3/lt/lt.html

Copiwch ran o’r testun a llun a’i fewnfudo i Publisher.

Gwnewch forder a’i argraffu.

eliffant.gif (99876 bytes)cred2.gif (44390 bytes)

  cred.gif (125152 bytes)

Ysgol Gymuned Pentraeth