 

India
ywr seithfed wlad fwyaf yn y byd. Mae hin tua 13 gwaith yn fwy na Phrydain
gyda 870 miliwn o bobl yn byw yno. Mae mwy o bobl yn byw yma nac yn unrhyw wlad arall yn y
byd ond Tsieina.

Dyma
fanner yr India. Mae ganddo dair streipen, oren, gwyn a gwyrdd. Mae olwyn las dywyll
ynghanol y streip gwyn ac mae pob rhan or olwyn yn golygu rhywbeth. Maer
streip oren yn cynrychioli yr Hindwiaid, y streip wyrdd yn cynrychioli y Mwslemiaid
ar streip wen yn gobeithio y bydd yr Hindwiaid ar Mwslemiaid yn byw mewn
heddwch. Hen symbol y Bwdiaid ywr olwyn sydd hefyd yn sefyll dros heddwch.

Mae
plant sydd yn byw yn India yn mynd ir ysgol
rhwng 4 a 16 oed. Mae rhai plant o deuluoedd tlawd yn gadael yr ysgol yn fuan ac mae rhai
sydd ddim yn mynd ir ysgol o gwbl. Maen rhaid iddynt gael arian i gadwr
teulu.Yn India mae yna ysgolion cyffredin ac ysgolion crefyddol. Mae rhai ysgolion mewn
pentrefi yn cymryd lle yn yr awyr iach ac maer plant yn eistedd ar y llawr ac yn
ysgrifennu ar lechi neu yn y pridd sych.

Maer
bwyd sydd yn cael ei fwyta yn India yn dibynnu ar grefydd y bobl ac ym mha ran or
wlad maent yn byw. Mae llawer o Hindwiaid yn lysieuwyr er fod rhai yn bwyta cyw iār a
physgod. Dydy Hindwiaid byth yn bwyta cig eidion na phorc achos maent yn meddwl fod moch
yn anifeiliaid budr.
Pryd pobl gyffredin
yn India yw reis neu chapattis gyda llysiau gwahanol, iogwrt a phicls. Maent yn defnyddio
llawer o berlysiau fel turmeric, coriander a chilli wrth goginio. Nid ydynt yn defnyddio
cyllyll a ffyrc i fwyta, maent yn defnyddio eu dwylo ond nid ydynt byth yn defnyddio eu
llaw chwith gan fod hyn yn anghwrtais.


Mae India yn wlad anferth. Mae pellter mawr rhwng llefydd ond mae
pobl India wrth eu bodd yn teithio o un lle ir llall i weld eu teuluoedd. Awyren
ywr ffordd cyflyma o deithio ond maer rhan fwyaf o bobl yn teithio mewn
trenau. Maer trenau bob amser yn llawn gyda llawer o bobl yn teithio ar y tu allan
gan hongian or ochrau am nad oes digon o le tu mewn.
Maer rhan fwyaf o bobl
yn rhy dlawd i brynu car ac felly maent yn mynd ar fysus neun defnyddio anifeiliaid
i fynd ā pethau iw gwerthu yn y farchnad. Mae cychod yn cael eu defnyddio ar yr
afonydd i gario pobl au heiddo ac yn yr anialwch, dim fan bost syn danfon
llythyrau ond camelod!
Maer dinasoedd yn llawn pobl a
thraffig- pawb yn rhuthro i bob man mewn bysus, rickshaws, mopeds, tacsis, ar feics ac
anifeiliaid.

Maer rhan fwyaf o gartrefi yn llawn pobl, maen lle
bywiog iawn efo nain, taid, mam dad, plant, cefndryd a llawer mwy or teulu yn byw.
Mae gan pawb waith yn y ty, pawb yn gweithio gydau gilydd.
Mae bywyd teuluol yn bwysig iawn yn India. Mae pobl hen
yn cael eu parchu ac mae pawb yn gwrando arnynt. Mae pobl yn cael gofal da yn eu hen oed.
Mae priodasaun cael eu trefnu gan rieni r
eneth ar bachgen. Pan mae rhywun yn priodi yn India maen golygu mwy na dau
berson yn dod at eu gilydd , maen golygu dau deulu yn dod at eu gilydd

Mae Mwslemiaid,
Cristnogion, Sikhs, Bwdiaid a Jains yn India. Hindwiaid ywr rhan fwyaf or bobl
ac mae 11% yn Fwslemiaid. Mae mwy o Fwslemiaid yn byw yn India nac unrhyw wlad arall yn y
byd.
Maer Hindwiaid yn addoli llawer o dduwiau a
duwiesau. Y prif dduwiau yw Brahma, Vishnu a Shiva. Mae llun o wraig Shiva, sef Parvati
iw weld ar waelod y daflen, gydai mab Genesha, y duw eliffant.
Y prif wyliau ir Hindwiaid yn India yw Diwali a Holi. Yn
ystod Diwali mae pob cartref yn cael ei oleuo gyda lampau a chanhwyllau gan mai gwyl y
goleuni ydyw. Dechraur gwanwyn yw Holi - pan maer Hindwiaid yn cofio am y
duwiau Radha a Krishna a oedd yn gariadon hapus.

|