bott.gif (1958 bytes)bot3.gif (2115 bytes)bot2.gif (1957 bytes)bota.gif (2078 bytes)botb.gif (1927 bytes)botk.gif (2156 bytes)botd.gif (1928 bytes)botc.gif (2157 bytes)

Afon Nodwydd

Y 'Royal Charter'

Llain Abernodwydd

Eglwys Santes Fair

Cloth Hall

Reilffordd Pentraeth

Enwogion o fri

 

Mrs Mair Wyn Hughes


Click here for an English version

          

Mrs Mair Wyn Hughes

Mae'r awdures enwog Mair Wyn Hughes yn byw ym Mhentraeth ac wedi dysgu yn Ysgol Pentraeth rhwng 1951-1959. Mae wedi ysgrifennu 51 o lyfrau ac wedi ennill gwobr Tir Na Nog dair gwaith. Dyma drawsgrifiad o sgwrs a gafodd gyda Miss Lynne Jones a phlant Blwyddyn 5 a 6 ar 11ed Ebrill, 1997.

Bethan
Pa un o'ch llyfrau ydy'r gorau ganddoch a pham ?

M.W.H.
Mae'n anodd dweud hynny achos pan dwi wrthi'n eu hysgrifennu nhw neu newydd eu gorffen nhw, hwnnw ydy'r ffefryn yn aml iawn ond....., ydych chi wedi gweld llyfrau Wali Wmff? Rydwi'n hoff iawn o Wali Wmff ac mae na lyfr newydd Wali Wmff sydd yn cael ei gyhoeddi y mis yma - Wali Wmff Yn Y Syrcas. I ateb eich cwestiwn chi, Wali Wmff dwi'n meddwl.

Carol
Ydych chi wrthi'n sgwennu ar hyn o bryd ?

M.W.H.
Ydw.

Carol
Beth ydy'r llyfr os gwelwch yn dda ?

M.W.H.
Dydy o ddim ar eich cyfer chi, un i'r Ysgolion Uwchradd ydy o, llyfr arswyd, stori am godi o'r llyn, llyfr i'ch dychryn chi !

Catherine
Pan oeddech chi yn yr ysgol, oeddech chi yn dda am sgwennu ?

M.W.H.
Golew !, Roeddwn i'n ysgrifennu pan oedd yr athrawes yn gofyn i mi ond nes i erioed feddwl y buaswn i'n sgwennu llyfrau fy hun rhyw ddiwrnod.

L.J
Pwy oedd yn gweithio efo chi yn yr ysgol yma ?

M.W.H.
Miss Ross Davies, mae hi'n byw i lawr wrth y traeth. Roedd hi yn yr ysgol yma yr un amser, a Mr Lloyd Owen oedd y prifathro.

Jade
Beth sydd yn eich ysgogi chi i ysgrifennu ?

M.W.H.
Mae'n anodd iawn dweud hynny, mae'n rhaid i chi gael syniad i gychwyn. Mi fydda i weithiau'n cael papur newydd i weld beth sydd yn digwydd yn yr ardal yma neu edrych ar y teledu neu wrando ar y radio ac mi fydd syniad yn fy mhen i am hir iawn a wedyn mi fyddai'n sgwennu stori am y syniad.

Kim
Beth oedd yn wahanol am yr ysgol pan oeddech chi'n dysgu yma ?

M.W.H.
Roedd hi'n llai o lawer. Dwi'n siwr mae tua 56 oedd na yn yr ysgol a dim ond y prifathro, Miss Davies a fi oedd yr athrawon, roedd hi'n fach ofnadwy.

Rochelle
Beth oedd teitl eich llyfr cyntaf chi ?

M.W.H.
Y llyfr cyntaf un oedd stori am Sioni Sbonc, rhyw gyw bach du oedd yn mynd i drybini o hyd a mi wnes i ysgrifennu y llyfr yma i blant Ysgol Pentraeth achos pan oeddwn i'n dysgu ym Mhentraeth doedd na ddim llawer o lyfrau Cymraeg ac felly doedd na ddim digon o straeon i mi ddweud wrth y plant ac felly mi wnes i ddechrau sgwennu i blant ysgol ac felly nes i ddechrau fel awdures.

Sarah
Pa flwyddyn ddaru chi ddechrau yn Ysgol Pentraeth ?

M.W.H.

1951. Mae hynny'n 46 o flynyddoedd yn ol !

James

Beth ydy'ch cynlluniau chi ar gyfer y dyfodol ?

M.W.H.

Sgwennu lot, lot o lyfrau eto !

Emma

Pryd ddaru chi orffen gweithio yn yr ysgol ?

M.W.H.

1959.

Bethan

Sut ydych chi'n mynd o gwmpas sgwennu llyfr ?

M.W.H.

Nes i ddweud wrthych chi fy mod i'n cael syniad, wedyn fe fyddai'n meddwl a meddwl am y syniad ac wedyn rhyw ddiwrnod fe fyddai'n penderfynnu fy mod i'n barod i ddechrau, Os dwi wedi cael cymeriadau, y bobol neu'r plant sydd am fod yn y llyfr dwi'n meddwl am rhywle lle mae rhywbeth yn digwydd iddyn nhw ac yn rhyfedd iawn mae'r stori'n tyfu o'r paragraff cyntaf. Pan dwi wedi meddwl am y syniad ac am y plant sydd yn y llyfr neu'r cymeriad fel Wali Wmff dwi'n eistedd i lawr wrth y prosesydd a dwi'n dechrau sgwennu a dwi ddim yn siwr iawn beth sydd yn mynd i ddigwydd yn y llyfr ond fel yr ydwi'n ysgrifennu mae na un frawddeg yn dod, un ar ol y llall ac wedyn paragraff ac mae wedi tyfu ar ben ei hun bron a'r cwbl dwi wedi ei wneud ydy eistedd i lawr o flaen y prosesydd na a teipio a gweld y geiriau'n dod ar y sgrin.

Carol

Oeddech chi'n mwynhau gweithio yn yr ysgol ?

M.W.H.

Oeddwn. Roedd na blant da iawn yma. Roeddwn i'n hoffi bod yn athrawes ond mi wnes i briodi ac wedyn cael Rhian a Iona, y ddwy ferch. Mi fues i adref am ychydig yn edrych ar eu holau nhw ac wedyn mi wnes i ychydig o waith yma ac acw mewn gwahanol ysgolion. Roedd hi'n reit braf achos roeddwn i'n wraig ffarm yn byw yn yr Hendra. Roedd hi'n anodd bod yn wraig ffarm a dysgu achos roeddech chi'n gwneud lot o waith allan. Erbyn hyn rydw i wedi ymddeol a dwi wedi gadael yr Hendra yna ac wedi mynd i fyw i dy rydw i wedi ei alw'n Hendra Cenin. Dwi'n hapus iawn yno.

Bethan

Ydych chi'n mwynhau sgwennu ?

M.W.H.

Ydw wir, yn amal iawn mi fyddaf yn dechrau tua 9 o'r gloch y bore, mi fydda i'n cael paned ganol bore a chario ymlaen tan amser cinio, cael fy nghinio a mynd yn ol at y prosesydd a chario ymlaen i sgwennu tan tua hanner awr wedi tri. Mae hynna'n ddiwrnod da! Weithiau mi fydda i'n codi a dweud, reit, dwi'n mynd i sgwennu lot fawr heddiw a dwi'n eistedd o flaen y prosesydd a dwi'n sgwennu dim. Yr adeg honno mi fydda i'n mynd i wneud gwaith ty fel smwddio a llnau'r ffenestri. Dydw i ddim yn hoffi gwneud pethau felly yn enwedig y ffenestri a mi fyddai'n falch wedyn o fynd yn ol at y sgwennu.

L.J.

Ydych chi'n ei chael hi'n anodd i ddisgyblu'ch hun ?

M.W.H.

Mae'n rhaid i chi gael rhywfaint o ddisgyblaeth.

Naomi

Oes na rhywbeth arall heblaw sgwennu rydych chi'n hoffi gwneud ?

M.W.H.

Ers talwm mi fyddwn i'n dysgu plant i chwarae'r piano. Dyna beth oeddwn i'n hoffi wneud ers talwm ond dim ond sgwennu rydw i rwan.

Carol

Pam oeddech chi eisiau bod yn athrawes ?

M.W.H.

Mae'r byd wedi newid yn ofnadwy erbyn rwan. Pan oeddwn i'ch oedran chi doedd na ddim ond dau ddewis i genod i ddweud y gwir, un ai roeddech chi'n mynd yn nyrs neu roeddech chi'n mynd yn athrawes a doeddwn i ddim eisiau mynd yn nyrs achos dwi ddim yn licio gweld gwaed. Felly mi nes i bederfynnu bod yn athrawes. Beth bynnag roeddwn i'n hoffi bod efo plant.

Carol

Beth nath wneud i chi ddechrau sgwennu ?

M.W.H.

Fel roeddwn i'n dweud wrthych chi gynnar pan oeddwn i'n dysgu doedd na ddim digon o lyfrau i'r plant yn fy nosbarth, a roeddwn i wedi bod yn meddwl a meddwl beth oeddwn i am wneud. Pan nes i feddwl am yr Wy Bach Sionc doeddwn i ddim yn sgwennu y stori i lawr, dim ond dweud y stori oeddwn i. Roeddwn i'n dweud wrthych pan fyddai'n sgwennu mae'r stori fel petai'n dod, wel yr un peth oedd yn digwydd pan oeddwn i'n dweud stori. Roeddwn i'n dechrau'r stori a doeddwn i byth yn gwybod beth oedd am ddigwydd. Roedd na fachgen bach yn fy nosbarth i, Derfel oed i enw fo a roedd o'n hoff iawn o storiau Sioni Sbonc. Fe fyddai'n gofyn i mi ailadrodd stori efallai y byddwn i wedi ei ddweud wythnosau'n gynt. Gan nad oeddwn i wedi sgwennu dim byd i lawr doeddwn i ddim yn cofio sut yn union roedd y stori'n mynd. Efallai y byddai Derfel yn gofyn i mi ddweud y stori am Sioni Sbonc yn mynd i'r dre a byddwn yn dechrau rhywbeth fel hyn.... "Roedd Sioni Sbonc yn mynd i'r dre yn ei drowsus melyn", a byddai llaw Derfel yn mynd i fyny, Plis Mis, trowsus glas oedd gynno fo !. Wel fedrwch chi ddim dweud stori a rhywun yn torri ar draws trwy'r amser ac felly er mwyn cadw Derfel yn ddistaw roedd yn rhaid i mi ysgrifennu y storiau i lawr. Ar ol i mi ddechrau sgwennu, yn enwedig pan welwn i fy enw i, Mair Wyn Hughes wedi ei ysgrifennu ar y clawr roeddwn i'n gwybod yn iawn mai awdures oeddwn i am fod.

Mae na un peth am fod yn awdures neu awdur. Rwan da chi'n sgwennu yn yr ysgol mewn un wers, efallai rhwng amser chwarae ac amser cinio ond pan fyddwch chi'n sgwennu llyfr da chi'n gorfod sgwennu bob dydd - heddiw a fory a'r diwrnod ar ol hynny a'r wythnos wedyn ac felly tan fyddwch chi wedi gorffen y llyfr. Felly mae'n rhaid i chi gofio un peth ofnadwy o bwysig, mae'n rhaid cael dyfal barhad, mae'n golygu fod yn rhaid i chi gario ymlaen. Roeddwn i'n dweud fy mod i weithiau'n mynd i wneud gwaith ty ond dydy hynny ddim yn para'n hir, buan iawn fyddai'n mynd yn ol i sgwennu.

L.J.

Fyddwch chi'n drafftio'ch gwaith o gwbwl ?

M.W.H.

Os fedrai beidio fyddai ddim, dwi ddim yn licio ail wneud pethau. Dyna beth sydd yn dda am brosesydd, da chi'n sgwennu a mae'r geiriau'n dod ar y sgrin. Os oes gynno chi frawddeg neu ddarn hir sydd ddim yn iawn, y cwbwl da chi'n ei wneud ydy pwyso botwm a mae o'n diflannu. Os ydych chi wedi gwneud camgymeriad neu wedi sillafu gair yn anghywir fedrwch ei newid o. Ond os medrai beidio dydw i ddim yn ail wneud fy ngwaith.

Carol

Ydy un o'ch llyfrau chi wedi ennill gwobr ?

M.W.H.

Mae na dri llyfr wedi ennill gwobr. Mae na wobr bwysig ofnadwy i bobol sy'n sgwennu ar gyfer chi a phlant ysgolion Uwchradd, gwobr Tir Na Nog. Dwi wedi ennill hi dair gwaith ond mae'n od ofnadwy achos dwi wedi ennill hi bob chwe blynedd - ennill hi gyntaf deunaw o flynyddoedd yn ol ac wedyn chwe blynedd ar ol hynny ac mi nes i ennill hi eto mewn chwe blynedd wedyn. Mae'n braf cael gwobr ond mae'n braf hefyd cael cinio mawr neis a chael mynd i rhyw westy mawr. Da chi'n cael y wobr mewn amlen gyda siec i mewn ynddi a mae bobol yn dweud mor dda da chi wedi wneud a cael eich hanes yn y papur newydd.

Ann Louise

Pwy fydd yn tynnu lluniau i chi ?

M.W.H.

Fydda i byth yn gwybod. Ydych chi'n gwybod beth sydd yn digwydd i lyfr ar ol i mi orffen ei sgwennu? Dwi'n teipio'r llyfr ar y sgrin ac wedyn dwi'n pwyso botwm a mae'n cael ei gyfogi allan yn un strimyn hir. Dwi'n anfon y teip ysgrif yma i lawr i Aberystwyth a mae'r bobol yn Aberystwyth yn ei ddarllen a mae nhw'n dweud, reit ta mae'r llyfr yma'n iawn ac wedyn mae nhw'n rhoi'r llyfr i'r wasg a mae nhw'n dweud mi rown ni grant i chi am gyhoeddi'r llyfr. Roeddwn i'n meddwl ers talwm y buaswn i'n anfon y teip ysgrif i ffwrdd ac mewn mis neu ddau mi fuaswn i'n cael y llyfr wedi ei orffen yn barod ac yn mynd i'r siopa. Ond efallai y byddaf yn disgwyl misoedd a rhyw ddiwrnod fe ddaw amlen tew a beth fydd o ydy beth mae nhw'n alw'n brofion - y profion cyntaf un. Mae nhw'n gofyn i mi fynd drwy hwnna a'i ddarllen o i gyd yn ofalus ac edrych oes na gamgymeriadau yno fo. Os oes na gamgymeriadau mae na farciau arbennig i'w roi wrth ymyl y testun i ddweud beth ydy'r camgymeriadau a wedyn dwi'n ei anfon o'n ol. Ella y byddaf yn disgwyl am fisoedd wedyn ond rhyw ddiwrnod mae na barsel arall yn dod i mi a'r tro yma yn lle strimyn hir mae nhw wedi cael eu gosod mewn tudalenau a mae nhw'n gofyn i mi wneud yr un peth eto, gofyn i mi ddarllen drwyddo, edrych os oes na gamgymeriadau neu eiriau wedi eu gadael allan a rhoi marciau ar ochor y dudalen. Ar ol ei anfon yn ol efallai y byddaf yn disgwyl misoedd eto a rhyw ddiwrnod mi fydd na barsel yn dod i mi, rhyw ddeg i ddeuddeg o lyfrau. Llyfrau wedi eu gorffen a dyma'r tro cyntaf y byddaf yn gweld y lluniau, dwi ddim wedi eu gweld nhw'n gynt. Dwi ddim yn gwybod pwy ydy'r arlunydd, dwi ddim yn gwybod pwy sydd wedi gwneud y clawr. Y peth cyntaf fyddai'n gwneud, misoedd ar ol i mi sgwennu'r llyfr, ydy gwneud paned o de i mi fy hun a darllen fy llyfr.


Anfonwch E-bost atom ni:  
pennaeth@pentraeth.anglesey.sch.uk

  Ysgol Gymuned Pentraeth, Pentraeth,
Ynys Môn LL75 8UP

Creuwyd y safle gan:

blant blwyddyn 5 a 6 a Nia Ll. Puw