llaw4.gif (11959 bytes)

PENTRAETH
YNYS MÔN / ANGLESEY
Ffôn/Tel: (01248) 450315
E bost/ E mail pennaeth@pentraeth.anglesey.sch.uk
Prifathrawes/Headteacher: C E Jones B.Add/B.Ed
Cadeirydd y Llywodraethwyr/Chair of Governors:Mr Peter Roberts

            

Ysgol gynradd sirol yw’r ysgol hon.
This school is a county primary school.


Fe garem estyn croeso cynnes i’ch plentyn i Ysgol Gymuned Pentraeth.

Fe gyflwynir y Cwricwlwm Cenedlaethol gan athrawon profiadol. Yn ychwanegol i ddatblygu sgiliau ieithyddol, mathemategol, gwyddonol a thechnolegol bydd eich plentyn yn datblygu hyder, hunan gynhaliaeth, dysgu gwneud penderfyniadau a datblygu’r gallu i fynegi teimladau a syniadau. Rydym hefyd yn rhoddi pwyslais ar ddatblygu sgiliau cymdeithasol y plentyn a’u tywys i ffurfio perthynas a phlant eraill ac oedolion ac i fod yn sensitif i deimladau ac anghenion pobl eraill.

Bydd yr athrawon yn sicrhau fod y plant yn symud ymlaen yn ol eu gallu i gyrraedd eu llawn potensial. Gweithiwn yn galed i sicrhau fod pob plentyn yn teimlo’n dda am eu hun ac yn cyrraedd lefel uchel o hunan barch. Os rydych yn teimlo’n llwyddiannus yna llwyddo wnewch.

Teimlwn fod eich rhan chwi yn y broses yn hanfodol ac fe gymerwn bob cyfle i roddi gwybodaeth i chwi am y ffyrdd yr ydym yn gweithio gyda’ch plentyn. Rydym yn awyddus i gael cyfraniad rhieni ar bob lefel. Os dymunwch gyfrannu o’ch amser fe estynir croeso i chwi yn yr ysgol.
Mae plentyndod yn amser arbennig iawn ac ni cheir ail gyfle. Gallwch ddibynnu arnom i wneud yr amser yn un mor hapus a chynhyrchiol ag sydd yn bosibl i’ch plentyn.
Yn gywir iawn

Carol Jones

llin.gif (2380 bytes)


Danfonwch E-bost atom ni:
 
pennaeth@pentraeth.anglesey.sch.uk

  Ysgol Gymuned Pentraeth, Pentraeth,
Ynys Môn LL75 8UP

Creuwyd y safle gan:

blant blwyddyn 5 a 6 a Nia Ll. Puw