|
. |
Llain Abernodwydd
Click here for an English version Llain Abernodwydd Llys mwyaf tywysogion Gwynedd oedd Aberffraw ym Môn, a'r prif fardd yno yn y drydedd ganrif a'r ddeg oedd Einion ap Gwalchmai. Credir i Einion gael ei fagu yn Nhrewalchmai. Heblaw ei fod yn fardd a cherddor medrus, roedd Einion hefyd yn un o filwyr dewraf Owain Glyndwr. Ysgrifennodd Einion gerddi am wraig brydferth Ednyfed Fychan a fu farw'n ifanc. Roedd ganddynt ferch o'r enw Angharad a roedd son am ei phrydferthwch trwy'r wlad. Dywed yr hanes fod boneddigion gorau Gwynedd yn awyddus o'i phriodi ond penderfynodd ei thad osod tasg arbennig o flaen y sawl a fynnai briodi ei ferch. Dewisiodd un o gampau'r hen Gymry , sef hwb, cam a naid. Gwyddai Angharad y medrai Einion ennill y gamp yn hawdd, a dyma oedd ei dymuniad oherwydd roedd mewn cariad ag ef. Dewisiodd y tad le i gynnal y campau , sef Maes Abernodwydd, gerllaw Plas Gwyn, Pentraeth. Daeth llawer o foneddigion i gynnig cyflawni'r gamp. Llwyddodd dau neu dri ohonynt i neidio deg a'r hugain neu ddeugain troedfedd ac aeth y cystadlu ymlaen trwy'r bore a'r prynhawn. Yr olaf i neidio oedd Einion. Hwb! Cam! Naid! Hanner can troedfedd ! Roedd wedi curo'r cystadleuwyr eraill yn
rhwydd. Rhedodd Angharad ato a rhoi ei breichiau am ei wddf. Dyna naid enwog Abernodwydd a
roedd son amdani ym mhob man. Yn fuan iawn wedyn priodwyd Einion ac Angharad a buont fyw
yn hapus iawn.
|
||
| Creuwyd
y safle gan: blant blwyddyn 5 a 6 a Nia Ll. Puw |