|
. |
Cloth Hall
Cloth Hall, siop wledig, lewyrchus ym Mhentraeth o eiddo Benjamin Thomas. Disgrifia'r pennawd ef fel groser, masnachwr te, haearnwerthwr, masnachwr blawd a cheirch, hetiwr, dilladwr, brethynwr gwlan a lliain, gwerthwr esgidiau a gweithredwr i bob math o offer. Cynrychiolai hyn ystod hynod o gynnyrch ar gyfer anghenion dyddiol y gymuned. Gweler peth o'i stoc yn cael ei arddangos ar y palmant garw y tu allan i'r siop. Mae'r llun yn gopi o gerdyn post a gyhoeddwyd yn 1906 gan Benjamin Thomas ei hun fel hysbysebiad i'w siop ac oedd yn debygol yn un o'r rhai a ddangoswyd yn ei ffenest.
Dyma lun o'r pentref yn dangos y swyddfa bost yn y pellter, ar gerdyn gan Wright a'i Gwmni yn 1905. Gweler Cloth Hall ar y chwith a thafarn y White Horse lle arhosodd George Borrow yn 1854. Pan agorwyd swyddfa'r post yn 1845 cludwyd y post yno o Borthaethwy gan farchog ar geffyl ond erbyn 1900 pan gymerodd Catherine Elias drosodd fel postfeistres oddiwrth Thomas Rogers, cludwyd y post gyda throl . Gweithiau pump postman gwledig o Bentraeth yn cerdded i Ty Fry, Tynymynydd, Cochymeiri a Thraeth Coch.
|
||
| Creuwyd
y safle gan: blant blwyddyn 5 a 6 a Nia Ll. Puw |