bott.gif (1958 bytes)bot3.gif (2115 bytes)bot2.gif (1957 bytes)bota.gif (2078 bytes)botb.gif (1927 bytes)botk.gif (2156 bytes)botd.gif (1928 bytes)botc.gif (2157 bytes)


.

 

Eglwys Santes Fair

Eglwys Santes Fair

Eglwys y Santes Fair yw adeilad hynaf Pentraeth ac mae tua 600 o flynyddoedd oed. Cafodd rhannau ohonni ei atgyweirio yn 1882. Saif yr eglwys ar y groesffordd lle mae'r ffordd o Amlwch i Borthaethwy yn croesi'r ffordd o Fiwmares i Langefni. Efallai fod Seiriol wedi cerdded heibio ar ei ffordd i gyfarfodei gyfaill Cybi.

Darlun o Eglwys Pentraeth gan Sparrow.Cafodd ei gyhoeddi gan S.Hooper ar Mehefin 2ail,178. Mae gwaith cerrig da iawn wedi ei wneud ar gyntedd yr Eglwys. Defnyddiwyd carreg galch a thywodfaen i'w adeiladau . Ar y to mae llechi. Dyma y tri fath o garreg a welir amlaf ar yr eglwys. Yn waliau'r eglwys gwelir llawer o garreg calch. Weithiau mae ffosil o gragen glan y mor i'w weld ynddi . Mae llaewer o chwareli calchfaen yn yr ardal , yn Nhraeth Coch ac ym Mhenmon ac efallai mae cerrig o'r chwareli hyn a ddefnyddiwyd i adeiladu Eglwys Pentraeth.

Fel y rhan fwyaf or eglwysi Ynys Mon,eglwys fechan syml ydy eglwys Pentraeth.Nid oedd y plwyf yn blwyf cyfoethog ac felly ni allai'r eglwys fforddio talu i adeiladu twr uchel. Yng nhorff yr eglwys mae lle i 180 eistedd. Dim ond ers 1847 mae seddau yn y corff. Yn Eglwys Pentraeth fel ym mhob eglwys arall mae'r pulpud ar yr ochr chwith o gorff yr eglwys. Mae gwydr lliw ym mhob un o ffenestri 'r eglwys ond mae ambell un yn arbennig o liwgar , fel y ffenestr a roddwyd yn rodd i gofio am Claud Panton Vivian ,- 'In memory of Claud Panton Vivian , Captain Royal Horse Artillary of Plas Gwyn, Pentraeth , aged 24 who gave his life at the Battle for Caen, July 1944.' Mae sawl carreg goffa tu mewn i'r eglwys i gofio am bobl Pentraeth a fu farw. Mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi eu cerfio allan o farmor e.e. carreg goffa i Hugh Williams, Ty Fry a fu farw Tachwedd 28ain, 1768 a'i fab John a fu farw Mawrth 5ed 1771. Person y Plwyf ar hyn o bryd yw'r Parchedig Deiniol Prys sydd yn ymwelydd cyson a'r ysgol.


Anfonwch E-bost atom ni:  
pennaeth@pentraeth.anglesey.sch.uk

  Ysgol Gymuned Pentraeth, Pentraeth,
Ynys Môn LL75 8UP

Creuwyd y safle gan:

blant blwyddyn 5 a 6 a Nia Ll. Puw