|
. |
Enwogion o Fri
Enwogion o fri - Enwogion Pentraeth Ifor Owain Thomas - Ganwyd Ifor ThomasYm Mhentraeth yn 1892 yn y Bay View, Traeth Coch a symud I fyw i'r Pandy wedyn. Dyma pam fod ei ffrindiau yn ei alw yn 'Ifor Pandy'. Aeth i Ysgol Fwrdd Pentraeth yn 1895 ac ar ôl gadael yr ysgol yn dair a'r ddeg mlwydd oed aeth yn saer gyda Huw Parry o Bentraeth. Dechreuodd ei yrfa fel tenor pan enillodd ysgoloriaeth i'r coleg cerdd Brenhinol y Llundain yn 1914. Cyfarfu a'i wraig, Ceridwen yn Llundain a ganwyd merch fach, Yvonne iddynt ar y 3ydd, Mehefin 1921. Ymhellach ymlaen yn y flwyddyn aethant i fyw i Milan .Ychydig wedyn, cyfarfu a'r tenor enwog o Wlad Pwyl, Jean de Reszke, a daeth yn hyfforddwr lleisiol iddo .Canodd yn nhai opera Milan, Nice a Monte Carlo. Trychineb mawr ym mywyd y tenor oedd marwolaeth ei ferch fach yn flwydd a hanner oed ym Milan . Torrodd Ifor ei galon a daeth a chorff ei ferch fach adref i Fôn. Claddwyd hi ym mynwent Capel Soar, Rhosfawr. Claddodd y canwr ei hun mewn gwaith ac yn 1928 gwahoddwyd ef i ymuno a'r Pedwarawd Metropolitan yn Efrog Newydd gyda Frances Alda. Bu'n gweithio gyda cwmni Radio Atwater Kent a bu'n canu mewn dwy Wyl Gerdd Newark yn Theatr y Mosque. Recordiodd nifer o operau i gwmni His Master's Voice. Mae'n debyg mae ef oedd y dyn cyntaf o Fôn i wneud record ac yn ôl yr hanes arwyddodd gytundeb werth £250 000 sef ffortiwn yn y dyddiau hynny. Pan ddaeth ei yrfa gerddorol i ben dechreuodd weithio fel ffotograffydd i gylchgrawn Colliers yn 1933. Gwnaeth enw iddo'i hun yn ei broffesiwn newydd ac fe weithiodd gyda enwogion fel Frank Sinatra, Ingrid Bergman a Tommy Dorsey. Y fraint fwyaf iddo oedd pan ofynwyd iddo dynnu llun yr Arlywydd Yr Unol Daliaethau, Franklin. D. Roosevelt . Defnyddiwyd ei lun enwog ar draws y byd. Bu'n gwneud y gwaith yma am 15 mlynedd. Yn niwedd y pedwardegau trodd ei law at arlunio. Arddangoswyd ei waith yn Efrog Newydd a Llundain ac hefyd mewn nifer o golegau yn yr Unol Daleithiau. Byddai bob amser yn arwyddo'i waith fel Ifor o Fôn. Yn 1977 derbyniodd Ysgol Pentraeth lun o Traeth Coch wedi ei beintio gan Ifor o Fôn wedi ei adael i'r ysgol yn ewyllys John Williams Hughes, Marianglas. Bu Owain Ifor Thomos farw yn 1956 yn Efrog Newydd a rhoddodd ei gorff i orffwys yn Delwanne, New Jersey. Mary Owen 1803-1911
Cafodd ei geni yn Nhrefriw yn 1803 . Daeth Mary Owen i fyw i fwthyn bach yn Fron Olew, Mynydd Llwydiarth, Pentraeth. Erbyn Mai 1911 hi oedd y person hynaf yn byw ym Mhentraeth a Phrydain a daeth dau ddyn diarth efo camera i dynnu ei llun. Roedd yr hen wraig yn cysgu ac aeth y dynion i mewn i'r ty a tynnu y llun heb ddweud gair wrth neb. Ymhen saith mis wedyn bu Mary Owen farw yn 108 oed a chafodd ei chladdu ym mynwent Pentraeth. Leila Megane 1891-1960 - Cantores opera enwog iawn oedd Maggie Jones neu Leila Megane. Canodd ym Mharis, Rhufain, Llundain ac Efrog Newydd. Mab Cae Ifan, Pentraeth oedd ei thad. Dafydd Ddu Eryri - Bardd enwog iawn oedd Dafydd Ddu Eryri . Ysgrifennodd lyfr o'r enw 'Corff y Gainc' a chan enwog o'r enw Titwm Tatrwm,- Titrwm Tatrwm Pan ymhell o'm gwlad yr af Weithiau'n Llundain, weithiau yng Nghaer William Evans (Wil Ifan o Fôn) - 1876-1952 -Cafodd ei eni yn Nhraeth Coch, mynd i Ysgol Llanbedrgoch cyn mynd i ddysgu bod yn saer maen. Wedyn aeth i'r fyddin a mynd i India, Melita, Creta, Yr Aifft a China. Daeth yn ôl o Hong Kong yn 1900 i fyw ger Traeth Coch i weithio fel saer maen a gwerthu peiriannau gwnio. Roedd yn ddyn hynod o ddiddorol a mae hanes amdano yn sefyll yn Nhraeth Coch a'i gefn at y Mor yn gweiddi nerth esgyrn ei ben. Roedd yn arfer ganddo, pan fyddai'r llanw allan fynd i'r traeth i gael ryhyrsal o ryw araith; a phan fyddai'n clywed y ci'n cyfarth ateb iddo yn y fferm draw fe wyddai fod ei lais yn dwyn ffrwyth. Ei gyfraniad mwyaf i fywyd ei gyfnod oedd ei lyfrau pwysig ar Orsedd y Beirdd,- Bonedd y Cymry a Bards of the Island of Britain. Gwelsom ei fedd ym mynwent Pentraeth gyda'r geiriau 'Athrylith Fawr, Bardd, Llenor a Hyniafiaethydd' wedi eu hysgrifennu ar ei garreg fedd. Dr William Rowlands - 1810-1871 - Ganwyd Dr William Rowlands yn 1810 yn Nhy Fry, Rhoscefnhir. Dysgodd ddarllen ac ysgrifennu adref a daeth a llawer o glod i'r teulu drwy ei lwyddiant yn y coleg. Graddiodd gydag anrhydedd o'r College of Surgeons and Apothecaries Hall yn Llundain yn 1832. Fe'i derbyniwyd fel llaw feddyg yn y 'Liverpool Dispensary' ac yn nechrau Gorffennaf, 1834 aeth i weithio fel meddyg teulu yn Llangollen . Syrthiodd mewn cariad a merch o'r dref honno ond yn anffodus daeth ciwrat y plwyf a chipio'i ddarpar wraig a'i ddyfodol. Bu hyn yn achos poen a phryder enbyd i'r meddyg, gymaint felly nes iddo droi at y ddiod a chafodd hwnnw y llaw uchaf arno. O dipyn i beth collodd ei bractis a phob peth arall. Dychwelodd i Fôn yn 1834 a throi at yr unig waith arall a wyddai amdano, sef gyrru gwartheg. Cerddai Doctor William y gwartheg ond ar ôl 1847 fe symudir y gwartheg ar y tren. Yr oedd William Rowlands ar stesion Caer ar fore gwlyb ac oer o Ragfyr, 1871 yn disgwyl y tren wartheg . Pan oedd yn croesi'r lein fe'i lladdwyd gan dren. Ni glywodd swn y tren gan ei fod wedi dechrau colli ei glyw. Cafodd ei gladdu ym mynwent Pentraeth. Harry Hughes Williams - 1892-1953- Ganwyd Harry Hughes Williams yn fferm Clai Mawr, Pentraeth ar 18 Ebrill 1892. Symudodd y teulu i Fynydd Mwyn, Llandrygarn yn 1894.Yn un ar ddeg oed cafodd Hughes Williams godwm a thorri ei glí n, ond celodd y ddamwain ac o ganlyniad bu'n dioddef o anabledd corfforol a'r hyd ei oes. Cwblhaodd ei addysg uwchradd yn y Collegiate School yn Lerpwl ac yna am dair blynedd, o 1911 ymlaen, yn y Liverpool City School of Art.Yn gynnar yn1914 enillodd ysgoloriaeth i'r Royal College yn Llundain. Yno enillodd ysgoloriaeth i deithio Ewrop ond oherwydd y rhyfel ni allodd fanteisio arni. Daeth yn ei ôl i Fôn ac ymroi i fyw a gweithio fel arlunydd. Trodd un o lofftydd í d Mynydd Mwyn yn stiwdio.Yr adeg honno oriel y Royal Cambrian Academy yng Nghonwy oedd y man agosaf lle gallai arddangos ei waith. Arddangoswyd ei luniau yno gyntaf yn 1918, ac fe'i etholwyd yn aelod cysylltiol o'r Academi yn 1921. Roedd hi'n amser caled arno. Roedd defnyddiau paentio yn ddrud. Eto roedd ei gynnyrch yn sylweddol . Yn aml paentiai ei luniau ar ddarnau o focsys pren wedi ei malu. Cai beth gwaith comisiwn, am luniau ac am waith coffa .Yna yn 1938 fe'i penodwyd yn athro arlunio yn Ysgol Ramadeg Llangefni. Ni chyfyngodd Hughes Williams ei hun i ddangos ei waith yn unig yn y Royal Cambrain Academy, lle daeth yn aelod llawn yn 1938. Gwyddom i 'Gastell Rhuddlan' a 'Stori'r Blat Las' gael eu dangos mewn arddangosfa yn yr Academy yn 1940 a 'Chawodydd Gwanwyn' a 'Traeth Tawel Ym Môn' yn 1942. Cynhwyswyd ei waith mewn arddangosfa iddo'i hun yn Gladwells Fine Art Dealers yn Llundain ac yn 1951 dangoswyd 'Y Ffenestr' yn y Paris Salon a 'Ty'r Arlunydd' yn La Revue Moderne. Bu farw Harry Hughes Williams yn 1953 pan syrthiodd ar risiau'r llofft yd ym Mynydd Mwyn.
|
||
| Creuwyd
y safle gan: blant blwyddyn 5 a 6 a Nia Ll. Puw |