bott.gif (1958 bytes)bot3.gif (2115 bytes)bot2.gif (1957 bytes)bota.gif (2078 bytes)botb.gif (1927 bytes)botk.gif (2156 bytes)botd.gif (1928 bytes)botc.gif (2157 bytes)


 

.

 

Gorsaf Pentraeth

Adeilad a phlatfform pren iddo oedd gorsaf Pentraeth . Doedd o ddim yn adeilad mawr a doedd y trenau stem ddim yn fawr chwaith. Roedd chwech gorsf ar y lein saith milltir o hyd,-

Pentre Berw

Ceint

Rhyd y Saint

Pentraeth

Llanbedrgoch

Traeth Coch

Benllech

Cyfeirir at blant y nafis, y dynion a ddaeth i adeiladu'r rheilffordd yn llyfr log yr ysgol. Anfonodd y prifathro, John Jones sawl un o blant y nafis adref o'r ysgol gan fod ganddynt afiechyd i'r croen! Cyfeirwyd hefyd at Hugh Williams a William Davies a gafodd ganiatad i adael yr ysgol yn 14 oed oherwydd eu bod wedi cael gwaith yn adeiladu'r rheilffordd am swllt yr wythnos. Agorwyd y rheilffordd yn 1908. Fe'i cauwyd i deithwyr yn 1930 ac i nwyddau yn 1950. Codwyd y cledrau yn 1954. Pan ddechreuodd bysiau y Bangor Blue redeg yn 1927 roedd hi'n llawer haws i ddal bws o'r stryd na cherdded yr holl ffordd i'r orsaf.

Pam na chodwyd gorsaf Pentraeth yn nes i'r pentref? Oherwydd buasai wedi costio gormod o arian i godi pont dros yr afon Nodwydd i gael y lein i mewn i'r pentref. Gan fod yr orsaf ar gyrion y pentref golygai fod y teithwyr yn gwynebu taith hir i fyny gallt serth i gyrraedd yr orsaf. Mae'n sicr fod hyn wedi cyfrannu at ddiwedd oes y rheillfordd ym Mhentraeth.


Anfonwch E-bost atom ni:  
pennaeth@pentraeth.anglesey.sch.uk

  Ysgol Gymuned Pentraeth, Pentraeth,
Ynys Môn LL75 8UP

Creuwyd y safle gan:

blant blwyddyn 5 a 6 a Nia Ll. Puw