bott.gif (1958 bytes)bot3.gif (2115 bytes)bot2.gif (1957 bytes)bota.gif (2078 bytes)botb.gif (1927 bytes)botk.gif (2156 bytes)botd.gif (1928 bytes)botc.gif (2157 bytes)

 

Yr Afon Nodwydd
          

Yr Afon Nodwydd

Afon fechan sy'n tarddu i'r de-orllewin o Bentraeth ac sy'n llifo i'r môr ym mhen Traeth Coch yw'r Afon Nodwydd. Mae'n amlwg fod yr enw'n hen. Yn Abernodwydd, lle llifai'r afon hon i'r môr, y neidiodd Einion ap Gwalchmai ei naid ryfeddol yn niwedd y ddeuddegfed ganrif.

Afon Nodwydd ydyw yn rhestr Williams o afonydd Mon,1908,a chyfeiria W. Davies at Aber Nodwydd fel ei haber, eto yn 1908. Nodwydd yw ei henw ar fapiau cyfredol yr Arolwg Ordnans hefyd.

Yn ol pob golwg enw disgrifiadol yw hwn. Amgryma Syr Ifor Williams ei fod yn disgrifio afon fain. Mae'r gair nodwydd wrth gwrs yn awgrymu hyn ac mae'r afon fwy nei lai ar ei hyd yn hynod o syth a chul. Nid yw'r enw'n hollol unigryw; mae afon arall o'r enw Nodwydd ger Llandegfan yng ngogledd orllewin Powys. Mae'r rhan o'r afon sy'n llifo drwy bentref Pentraeth yn cael ei galw'n Nant Y Felin gan bobl yr ardal.


Anfonwch E-bost atom ni:  
pennaeth@pentraeth.anglesey.sch.uk

  Ysgol Gymuned Pentraeth, Pentraeth,
Ynys Môn LL75 8UP

Creuwyd y safle gan:

blant blwyddyn 5 a 6 a Nia Ll. Puw