bott.gif (1958 bytes)bot3.gif (2115 bytes)llawl.gif (3143 bytes)bot2.gif (1957 bytes)bota.gif (2078 bytes)botk.gif (2156 bytes)botd.gif (1928 bytes)botc.gif (2157 bytes)


 

 

teitl.gif (9750 bytes)

Click here for the English Version

 

llun2a.gif (37569 bytes)

Poblogaeth

- 1175 (1991)

Yr Enw

Pentraeth , pen - 'diwedd', a'r gair cyffredin traeth. Saif Pentraeth yn ymyl Traeth Coch.

Traeth Coch

- traeth + coch, o achos lliw'r tywod. Gelwir ef 'Red Wharf' yn Saesneg am fod glanfa yno ar gyfer masnach llongau y glannau.

Llanfair Betws Geraint

- hen enw ar Bentraeth.

Llan

- eglwys, plwyf, ardal yng ngofal offeiriad.

Mair

- mam yr Iesu. Cysegrwyd eglwys y plwyf i'r Santes Fair.

Betws

- lle tawel i ymneilltuo iddo, capel, ty gweddi.

Geraint

- enw gwrywaidd sydd yn cael ei ddefnyddio ar stadai tai yn yr ardal. Credir fod eglwys yn sefyll ym Mhentraeth cyn yr eglwys bresennol wedi ei henwi ar ol Sant Prydeinig cynnar, sef Geraint.


Cliciwch ar y geiriau sydd wedi'u tanlinellu:
Saif Pentraeth tua 7km i'r Gogledd o Borthaethwy ar yr A5025. Mae'n sefyll ar groeslon y B5109 a'r A5025.Pentref deniadol ar lan yr Afon Nodwydd yw Pentraeth a tybir fod y mor yn dod ato ar un cyfnod. Priododd yr hyniafaethydd Paul Panton aeres Plas Gwyn, plasdy Sioraidd ac ymgartrefodd yno. Coffeir ei enw yn nhafarn y pentref, sef Y Panton Arms. Yma arhosodd Charles Dickens pan ddaeth i adrodd ar hanes trychineb Y 'Royal Charter'. Gerllaw Plas Gwyn mae llecyn o'r enw Llain Abernodwydd. Yno mae tair carreg yn nodi'r fan lle y dywedir i Einion ap Gwalchmai neidio dros 40 troedfedd i ennill gwraig iddo'i hun. Saif yr eglwys, sef Eglwys Santes Fair ar y groesffordd lle mae'r ffordd o Amlwch i Borthaethwy yn croesi'r ffordd o Fiwmares i Langefni.

Ynghanol sgwar y pentref gwelir Siop Mace neu'r hen Cloth Hall ers talwm ac yn is i lawr, siop a chartref Ted Wright , lle safai'r White Horse dros ganrif yn ol . Arhosodd George Borrow yma yn 1854 ar ei daith drwy Gymru. Drws nesaf gwelir y siop trin gwallt, sef Ty Llwyd ers talwm a oedd yn siop pethau da. Troi i'r chwith heibio'r siop trin gwallt ac i lawr rhesdai Elias gwelir y lon sydd yn arwain i Dalwrn a Llangefni, y B5109. Troi i'r chwith wedi mynd heibio'r rhesdai ac mae'r ysgol yn ein gwynebu, Ysgol Gymuned Pentraeth. Wrth sefyll ar iard yr ysgol a gwynebu lon Talwrn gwelir i'r Gorllewin , Hendre Hywel a hen arwyddion o Reilffordd Pentraeth a adeiladwyd ar ddechrau'r ganrif. Mae'n bentref hynafol a llawer iawn o hanes yn perthyn iddo, enwogion o fri wedi eu geni yma , rhai wedi eu claddu yma a rhai yn dal i fyw yma, fel yr awdures, Mair Wyn Hughes.Y tro nesaf y byddwch yn Ynys Mon, peidiwch a gyrru drwy'r pentref. Arhoswch am ychydig i gael blas ar y lle. Fe wnaeth George Borrow , a dyma a ysgrifennodd yn ei lyfr 'Wild Wales' ,-

'Mountain Lidiart and the Northern Hill formed the headlands of a beautiful bay into which the waters of the traeth dell, from which I had come, were discharged. A sandbank, probably covered with the sea at high tide, seemed to stretch from mountain Lidiart a considerable way towards the northern hill. Mountain, bay, and sandbank were bathed in sunshine, the water was perfectly calm; nothing was moving upon it, nor upon the shore, and I thought I had never beheld a more beautiful and tranquil scene.'


Anfonwch E-bost atom ni:  
pennaeth@pentraeth.anglesey.sch.uk

  Ysgol Gymuned Pentraeth, Pentraeth,
Ynys Môn LL75 8UP

Creuwyd y safle gan:

blant blwyddyn 5 a 6 a Nia Ll. Puw