| Plas Gwyn
Plas Gwyn Adeiladwyd Plas Gwyn gan William Jones 1688-1755. Mae'n dy o dri llawr, wedi ei adeiladu o frics coch a tho llechi. Gorffenwyd y ty yn 1754. Mab Plas Gwyn oedd John Jones a chafodd ei eni yn 1650. Bu farw yn 1727. Daeth yn Ddeion Eglwys Gadeirol Bangor. Agorodd ysgol ym Mhentraeth yn 1719, ysgol i ddysgu 10 o blant i ddarllen Cymraeg, Saesneg, ysgrifennu a gwneud symiau. Gadawodd £100 yn ei ewyllys i redeg yr ysgol. Wyddom ni ddim llawer am yr ysgol ond hi oedd yr ysgol gyntaf ym Mhentraeth ac nid oedd y plant yn gorfod talu yr un geiniog am gael eu dysgu. Enw'r ysgolfeistr yn 1787 oedd Robert Owen. Yr unig beth a wyddom ni amdano ydy ei fod wedi ymosod ar rhywun o'r enw John Williams. Digwyddodd hyn ar Fedi 8ed. Curwyd John Williams druan yn ddrwg. Bu rhaid i Robert Owen, yr ysgolfeistr fynd o flaen y llys ym Miwmares ond ni wyddom beth ddigwyddodd iddo. Yn 1756 priododd Paul Panton aeres Plas Gwyn , sef Jane , merch William Jones. Dywedwyd i Paul Panton gymeryd ei ddyletswyddau fel sgweiar Plas Gwyn o ddifrif . Dangosai ddiddordeb mewn llenyddiaeth. Cymraeg er fod ei afael ar y Gymraeg yn wan. Cafodd gasgliad o lawysgrifau ar ol Ieuan Fardd wedi ei farwolaeth yn 1787. Teulu Plas Gwyn oedd perchen y rhan fwyaf o'r tai o gwmpas Pentraeth a'r rhan fwyaf o'r ffermydd. Yn 1840 teulu Vivien oedd perchnogion Plas Gwyn. Yr Arglwydd Vivien a werthodd y tir lle adeiladwyd yr ysgol arno yn 1863. Heddiw Mrs Margaret Eleanor Lowrie yw perchenog Plas Gwyn. Ei gwr cyntaf oedd Claude Panton Vivian . Ailbriododd ar ol i Vivian gael ei ladd yn yr Ail Ryfel Byd yn 1944 yn 24 mlwydd oed.
|
|||
| Creuwyd
y safle gan: blant blwyddyn 5 a 6 a Nia Ll. Puw |