        
|


Click here for the
English Version

Mae'r plant wedi ysgrifennu
pwt am yr athrawon.

|
Mrs C. E. Jones - Prifathrawes
 Mrs Carol Jones ydy'r
brifathrawes yn ein hysgol ni. Mae hi'n fyr gyda gwallt tywyll,cwta. Cyn dod i ysgol
Pentraeth roedd Mrs Jones yn dysgu yn ysgol Llanfawr, Caergybi. Mae llawer o newidiadau
wedi bod yn yr ysgol; rydan ni wedi cael gemau ar yr iard, llun mawr ar wal y neuadd a
mae'r gerddi wedi cael eu hail blannu . Yn yr haf mae oglau y blodau'n fendigedig. |
Ers tua blwyddyn rydan ni wedi
dechrau cael seren yr wythnos lle mae pob un athrawes yn dewis y plentyn sydd yn sefyll
allan yn y dosbarth am waith da neu am wneud wneud rhywbeth arbennig. Mae hyn yn helpu ni
y plant i weithio'n gletach.
|
Miss L. Jones
-Dirprwy Brifathrawes
Y Dirprwy Brifathrawes ac athrawes blwyddyn 5 a 6 yw Miss Lynne Jones. Mae Miss Jones yn
dal iawn gyda gwallt byr, tywyll. Miss Jones sydd yn dysgu'r cor hefo Miss Edwards. Mae hi
hefyd yn gyfrifol am ddysgu Addysg Gorfforol drwy'r ysgol. Fe enillodd y tim gymnasteg
gwpan Gwynedd ym mis Chwefror a daeth Jade Richardson yn gyntaf fel unigolyn. |

|
Cyn dod i ysgol Pentraeth roedd Miss
Jones yn dysgu yn ysgol Llanfawr, Caergybi hefyd. Mae Miss Jones yn garedig ac mae hi'n
chwerthin lot. Mae hi weithiau yn dweud jocs ac mae'n gwneud i'r dosbarth i gyd chwerthin. |

|
Mrs Y. Jones
Mrs Yvonne Jones sydd yn dysgu blwyddyn 0 a 1. Mae Mrs Jones yn dal gyda gwallt melyn byr.
Mae Mrs Jones hefo gwaith arbennig sef edrych ar ol y plant lleiaf yn yr ysgol. Mae hi'n
rhoi prawf sillafu i blant blwyddyn 5 a 6 dwy waith yr wythnos. Erbyn hyn mae sillafu'r
plant wedi gwella yn arw, diolch i Mrs Jones.
|
Miss E. Edwards

Mae Miss A. Edwards yn dysgu Blwyddyn 2 a 3. Mae hi yn chwarae y piano i'r Ysgol a'r cor.
Mae hi'n dal hefo gwallt tywyll ac mae hi'n gwisgo sbectol. Mae Miss Edwards hefyd yn
chwarae piano i Gor Meibion Dwyfor. Ym mis Mawrth 1997 chwaraeodd mewn cyngerdd lle roedd
Bryn Terfel a Rebecca Evans yn canu. Dywedodd ei fod yn brofiad arbennig. |

|

|
Mrs Nia Llewelyn Puw
 Mae Mrs
Puw yn athrawes ffeind iawn. Mae hi'n dysgu Blwyddyn 4 a 5 ac mae hi'n wych ar y
cyfrifiaduron. Mae ganddi wallt melyn a llygaid glas. Mae hi bob amser yn gwenu. |
Mrs
Glenda Williams

Mae Mrs Glenda Williams yn dysgu plant y feithrin. Mae hi'n edrych ar eu hol nhw yn wych.
Mae hi'n gofalu amdanyn nhw ar yr iard hefyd. Mae ganddi hi lygaid brown a dydy hi ddim yn
dal iawn. |
 |

|

Anfonwch E-bost atom ni:
pennaeth@pentraeth.anglesey.sch.uk
|
Ysgol
Gymuned Pentraeth, Pentraeth,
Ynys Môn LL75 8UP |
|