bott.gif (1958 bytes)bot3.gif (2115 bytes)bot2.gif (1957 bytes)bota.gif (2078 bytes)botb.gif (1927 bytes)botk.gif (2156 bytes)botd.gif (1928 bytes)botc.gif (2157 bytes)



  Hanes yr Ysgol
        
Click here for an English version    

Yn 1862 dechreuodd Roger Evans , masnachwr a pherchennog
llongau wneud trefniadau ar gyfer dechrau Ysgol Frytanaidd yn y
pentref. Prynwyd tir gan yr Arglwydd Vivian am £490 a chostiodd yr
adeilad £591. Cafodd yr adeilad ei orffen erbyn Rhagfyr 26, 1863.
Roedd cyfarfod mawr yn yr ysgol a chyngerdd yn yr hwyr. Enw'r
ysgol oedd Ysgol Frytanaidd , Pentraeth. Plant y capeli oedd yn
mynd iddi. Am fod y capelwyr yn codi ysgol , penderfynodd yr
eglwyswyr godi ysgol newydd hefyd. Ar Ionawr 4ydd , pan agorwyd
ein hysgol ni bu te parti i 75 o blant yn yr Ysgol Eglwys newydd.

Yn ystod y cyfnod yma roedd na fobl tlawd iawn yn byw yn y pentref
a llawer o blant heb ddillad twt i ddod i'r ysgol. Felly agorwyd CLWB
DILLAD. Byddai pobl gyfoethog yn rhoi pres bob blwyddyn ar gyfer
prynu dillad i'r plant tlawd. £2.00 roddodd Lady Vivian yn 1864.

Cerrig oedd y waliau gyda brics ar y corneli, pedwar corn simnai a
chwech o ffenestri ar y ffrynt. Roedd cloch yr ysgol yn hongian ar y
tu allan. Dwy ystafell ddosbarth oedd yn yr ysgol yn 1863, un fawr ac
un fychan. Ar ganol yr ystafell fychan roedd llenni i'w gwneud yn
ddwy. Roedd ty'r ysgol yn rhan o'r adeilad a dyma lle roedd y
prifathro a'i deulu yn byw. Roedd tair llofft yn y ty a pharlwr, cegin a
sgylyri i lawr y grisiau.

Ar y diwrnod cyntaf daeth cant o blant i'r ysgol dan ofal y prifathro
newydd , sef Mr Humphrey Owen a ddaeth o'r Coleg Normal. Ei
wraig, Mrs Annie Owen oedd yr ysgolfeistres. Roedd sesiwn y bore
yn mynd o 8.30 a.m. -12.00p.m. a sesiwn y prynhawn o 2.00 p.m. -
4.00 p.m. am gost o geiniog yr wythnos.

Cynhaliwyd yr ysgol am flwyddyn yn yr hen gapel wrth ymyl o
Awst, 1926 ymlaen. Roedd yr adeilad cyntaf wedi mynd yn wael a
rhaid fu ailadeiladu llawer arno. Ail agorwyd yr adeiladau ar Awst 23 ,
1927 gan Yr Arglwyddes Verney, Plas Rhianfa, Porthaethwy.

Erbyn heddiw mae darnau newydd wedi eu codi, y ffenestri'r hen
ysgol wedi eu newid a'r cyrn simnai wedi eu tynnu i lawr.

Roedd darllen llyfr log yr ysgol yn hynod o ddiddorol , wedi ei
ysgrifennu yn Saesneg ac yn dangos newidiadau enfawr ym myd
addysg ac yn y gymdeithas yn gyffredinol.



Anfonwch E-bost atom ni:  
pennaeth@pentraeth.anglesey.sch.uk

  Ysgol Gymuned Pentraeth, Pentraeth,
Ynys Môn LL75 8UP

Creuwyd y safle gan:

blant blwyddyn 5 a 6 a Nia Ll. Puw